Mae Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili, wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghanol tref Caerffili ers nifer o flynyddoedd ac mae’n cael ei chynnal rhwng 9am a 5pm ddydd Sadwrn 27 Ebrill!
Gall ymwelwyr grwydro drwy’r stondinau niferus o ben Cardiff Road i Faes Parcio’r Twyn, gan fwynhau golygfa ysblennydd Castell Caerffili godidog o’r 13eg ganrif sydd wedi’i leoli wrth galon y digwyddiad!
Mae canol y dref yn cael ei drawsnewid yn farchnad sy’n llawn dop o ddanteithion coginiol; mae’n baradwys i’r rhai sy’n dwlu ar fwyd gyda nifer fawr o stondinau bwyd a diod i demtio blasbwyntiau ymwelwyr gydag aroglau blasus a chynnyrch sy’n tynnu dŵr o’r dannedd.
Mae rhaglen o arddangosiadau coginio wedi’i chynllunio drwy gydol y dydd ac mae’r digwyddiad yn ymuno â’r marchnadoedd misol sefydledig sy’n cael eu cynnal yng nghanol y dref. Mae Marchnad y Crefftwyr yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Marchnad Fwyd a Chrefft, Canolfan Siopa Cwrt y Castell, a ffair grefftau ger y Senotaff gan Crafty Legs yn dod â hyd yn oed mwy o amrywiaeth!
Bydd diddanwyr stryd yn crwydro’r ŵyl drwy’r dydd i ddiddanu pawb a bydd detholiad bach o reidiau ffair i blant i ddiddanu’r rhai bach!
Mae gan ganol y dref ddewis hyfryd o siopau annibynnol gyda syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau’r stryd fawr. Mae Caerffili yn cynnig amrywiaeth eang o leoliadau bwyta allan ledled canol y dref, gan gynnwys caffis, bariau a bwytai, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol chi.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Cardiff Road, Twyn Road, Castle Street (tua’r gogledd yn unig) a maes parcio’r Twyn, lle bydd y ffyrdd ar gau rhwng 9pm nos Wener 28 Ebrill a 9pm nos Sadwrn 29 Ebrill.
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffoniwch 01443 866390.
Am ragor o wybodaeth am yr ŵyl, gan gynnwys y rhaglen arddangosiadau coginio, y rhaglen adloniant, stondinau a fydd yn bresennol a’r ffyrdd a fydd ar gau, ewch i wefan Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili.
Cliciwch ar y map i weld fersiwn PDF llawn.
Mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:
Mae cyfleusterau parcio a cherdded AM DDIM yn y lleoliadau canlynol:
Gallwch chi ddefnyddio Parkopedia* i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feysydd parcio yn yr ardal, gan gynnwys prisiau.
❗️ Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Mae nifer o reseli beiciau yng nghanol tref Caerffili, wedi’u nodi’n borffor ar y map. Mae rheseli beiciau ar gael ledled Cardiff Road, y Twyn a thu allan i Morrisons.
Mae gorsaf drenau Caerffili ger safle’r digwyddiad, gyda threnau i Fargod a Chaerdydd ac yn ôl bob 15 munud, a threnau i Rymni ac yn ôl bob awr.
Mae gorsaf fysiau Caerffili hefyd yn darparu cyswllt uniongyrchol â Chaerdydd a llwybrau eraill ledled y Fwrdeistref Sirol.
Ewch i wefannau Trafnidiaeth Cymru* a Traveline Cymru* i gael rhagor o wybodaeth am amserlenni trenau a bysiau.
❗️ Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.
Mae disgwyl i fysiau redeg yn lle trenau ar reilffordd Rhymni ddydd Sadwrn 27 Ebrill, a allai effeithio ar eich taith i Ŵyl Bwyd a Diod, Caerffili ac yn ôl.
Byddwch yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd hyn a chaniatáu amser ychwanegol wrth deithio neu wneud trefniadau teithio arall os oes angen.
*Nid yw Croeso Caerffili yn gysylltiedig â’r sefydliad hwn.
Edrychwch ar y rhaglen adloniant lawn yma!
Dros 75 o fasnachwyr bwyd a diod gyda chacennau, bara, losin, cyffug, crystau, sawsiau, siytni, pitsa a llawer mwy o gynnyrch blasus. Mwynhewch gael blas o ddiod neu ddwy gan y nifer fawr o werthwyr gwirodydd, cwrw a seidr. Rhowch gynnig ar y gwahanol gawsiau sydd ar gael a phrynu eich ffefrynnau. Bydd digon o fwyd stryd i demtio’r blasbwyntiau… gwynto’r arogl a gwylio’r bwyd poeth yn cael ei goginio o’ch blaen chi!
Gweler yr hysbysiadau isod am wybodaeth bwysig ynghylch cau ffyrdd, systemau traffig a mynediad i breswylwyr/manwerthwyr yn ystod ein Digwyddiadau’r Gwanwyn 2024.
Cliciwch neu tapiwch ar y delweddau i gael fersiwn sgrin lawn o’r Hysbysiad Preswylwyr a Manwerthwyr.
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.
#CroesoCaerffili #DewisLleol #UKSPF