Ffair y Gaeaf, Caerffili 2024, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt

Sat 30 Nov, 9:00am - 6:00pm

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol!

I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.

Mae Ffair y Gaeaf yng Nghaerffili yw’r lle perffaith i chi deimlo ysbryd y Nadolig. Profwch olygfeydd, seiniau ac arogleuon y dref a’r castell wrth baratoi ar gyfer y Nadolig, gyda bwyd stryd blasus, arogl gwin brwd, theatr stryd gyffrous a dros 60 o stondinau bwyd, crefft a rhoddion, gan gynnwys atyniadau ffair i ddiddanu’r holl deulu!

Yn rhan o’r digwyddiad hudolus hwn mae’r Orymdaith Lusernau Afon y Goleuni sy’n dechrau am 5pm ac yn gorffen gydag Arddangosfa Tân Gwyllt am 5:45pm!

Wrth ymweld â Ffair y Gaeaf yng Nghaerffili, cofiwch fynd i’r Farchnad Crefftwyr boblogaidd yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Ffair Grefftau Crafty Legs wrth y Senotaff, a Marchnad Crefft a Bwyd Cwrt y Castell yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell. Mae’r holl farchnadoedd hyn yn ategu Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili, a’r cymysgedd o siopau annibynnol a siopau’r stryd fawr sydd yn y dref.

Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM! Mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol i’r castell.

Am ragor o wybodaeth, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.

Oes diddordeb gennych chi mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn? Cysylltwch â digwyddiadau@caerffili.gov.uk.

Mae Cyngor Tref Caerffili yn cynorthwyo’r digwyddiad hwn.


Rhestr Stondinau

Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.


Map Parcio

Yn mynd i Ffair y Gaeaf, Caerffili, dydd Sadwrn 30 Tachwedd? Dyma ychydig o wybodaeth am barcio a thrafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y digwyddiad! ℹ️

Parcio

Mae parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:

  • Maes Parcio Station Terrace, CF83 1JU (talu ac arddangos)
  • Cyfleuster Parcio a Theithio Caerffili, CF83 1JU (am ddim)
  • Maes Parcio Crescent Road, CF83 1AB (talu ac arddangos)
  • Morrisons / Canolfan Siopa Cwrt y Castell, CF83 1XP (am ddim, hyd at 3 awr)

❗️ Mae pob un o’r meysydd parcio uchod yn cynnwys mannau parcio i’r anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.

Rheseli Beiciau

Gellir dod o hyd i rheseli beiciau yng ngorsaf drenau Caerffili, ledled Heol Caerdydd, o amgylch y Twyn a thu allan i Morrisons.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae Cyfnewidfa Drafnidiaeth Caerffili wedi’i lleoli gerllaw safle’r digwyddiad, gyda threnau i ac o Fargoed a Chaerdydd bob 15 munud a threnau i ac o Rhymni bob awr. Mae gorsaf fysiau Caerffili hefyd yn darparu cysylltiadau uniongyrchol â Chaerdydd a llwybrau eraill ledled y fwrdeistref. Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu Traveline Cymru am ragor o wybodaeth am amserlenni trenau a bysiau.


Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau Gaeaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 2024


Mae Caerffili yn Dref Smart!

Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair y Gaeaf, Caerffili, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.

Lawrlwythwch am ddim yma.



Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

Essential information

Address
Address
Canol Tref Caerffili
CF83 1JL
Contact Name
Contact
Tîm Digwyddiadau CBSC
Phone
Phone
01443 866390
Website
Social Media
Facebook
Twitter
Instagram
Charges
Charges
AM DDIM
Pet Friendly
Pet Friendly

You may also be interested in: