Dathlwch y Nadolig a helpu ein rhaglen o ddigwyddiadau 2024 ddod i ben mewn steil gyda Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni NEWYDD SBON yng Nghanol Tref Bargod ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr – ochr yn ochr â Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf Bargod!
Does dim cost i gymryd rhan yn yr orymdaith a bydd yn digwydd o 5pm. Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Tref Bargod, a’i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Cofiwch ddod draw i’n Gweithdai Gwneud Llusernau Bargod sy’n RHAD AC AM DDIM yn Neuadd Eglwys Santes Gwladys ddydd Sadwrn 23 Tachwedd, dydd Sadwrn 30 Tachwedd a ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr a gwneud eich llusernau moethus eich hun i baratoi ar gyfer yr orymdaith!
(Sylwer: NID yw mynychu’r gweithdai yn ofynnol i gymryd rhan yn yr orymdaith.)
Bydd yr Orymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni yn dechrau ym maes parcio’r Emporium, cyn mynd ar hyd stryd fawr Bargod, a gorffen yn Hanbury Square!
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy