Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni 2025

Sat 15 Nov, 10:00am - 5:00pm

Sun 16 Nov, 10:00am - 5:00pm

Sat 22 Nov, 10:00am - 5:00pm

Sun 23 Nov, 10:00am - 5:00pm

Mynediad am ddim! Dim angen cadw lle ymlaen llaw!

Wrth i ni agosáu at dymor y Nadolig, beth am fwynhau rhywfaint o amser hwyliog i’r teulu AM DDIM a dod â’r plant i greu llusern Nadoligaidd arbennig ar gyfer Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni yng nghanol tref Caerffili ddydd Sadwrn 29 Tachwedd.

Mae’r gweithdai AM DDIM yn cael eu trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’u hariannu gan Gyngor Tref Caerffili. Bydd y gweithdai’n brofiad braf i’r hen a’r ifanc! Gall plant ddangos eu creadigrwydd nhw a bydd oedolion yn cael cyfle i gael hwyl a chwarae rhan hefyd!

Boed yn llusern deuluol neu’n rhywbeth ychydig yn fwy mentrus, bydd digon o bapur crefft a glud i bawb gael creu campwaith!

Bydd y gweithdai llusernau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal rhwng 10am a 5pm yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn ddydd Sadwrn 15 Tachwedd, dydd Sul 16 Tachwedd, dydd Sadwrn 22 Tachwedd a dydd Sul 23 Tachwedd, yn barod ar gyfer yr orymdaith ddydd Sadwrn 29 Tachwedd am 5pm.

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i ariannu gan Gyngor Tref Caerffili.


Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

Essential information

Address
Address
Canolfan Gymunedol y Twyn, Caerffili
CF83 1JL
Contact Name
Contact
Tîm Digwyddiadau CBSC
Phone
Phone
01443 866390
Website
Social Media
Facebook
Instagram
Twitter
Charges
Charges
AM DDIM

You may also be interested in: