Mae Adrian Turner, perchennog Escape Blackwood, sef atyniad ystafelloedd dianc cyffrous ar gyrion Coed Duon, wedi bod yn hynod o brysur yn ystod y cyfyngiadau symud drwy ymgolli ym myd ffantasi a ffuglen!
Byddai Adrian, meistr gemau Escape Blackwood, fel arfer yn creu ystafelloedd dianc â thema newydd a chyffrous i ddiddanu plant, oedolion, teuluoedd a grwpiau partïon; fodd bynnag, yn ystod cyfnodau’r cyfyngiadau symud y mae cynifer o fusnesau wedi’u dioddef yn ystod COVID-19, mae Escape Blackwood wedi aros ar gau, gyda’r meddwl creadigol y tu ôl i’r busnes yn canolbwyntio ar fentrau newydd.
Ac yntau’n arbenigo mewn llyfrau arswyd/ffuglen wyddonol ar gyfer pobl yn eu harddegau, cyhoeddodd Adrian ei lyfr cyntaf, ‘Shudders’, a gyrhaeddodd frig y rhestr o lyfrau mwyaf poblogaidd yn ei gategori ar Amazon yn ddiweddar, gan ddangos ei boblogrwydd enfawr. Cydiodd y stori gyfareddol yn y darllenwyr ac, yn ddiweddar, mae wedi dal sylw’r nofelydd ac awdur Americanaidd, R.L. Stine, sef awdur y gyfres arswyd enwog ar gyfer pobl yn eu harddegau, ‘Goosebumps’. Mewn neges ddiweddar ar Facebook, dymunodd R.L Stine bob lwc yn bersonol i Adrian gyda’i lyfrau.
Meddai Adrian, “Mae methu ag agor Escape Blackwood wedi fy arwain at ganolbwyntio fy meddylfryd mewn man arall a meddwl y tu allan i’r bocs! Daeth fy nawn i ysgrifennu’r nofelau hyn o unman ac, erbyn hyn, mae’n ymddangos nad oes dim yn gallu fy rhwystro.”
Mae Adrian bellach ar ei drydydd llyfr gyda llawer mwy ar y gweill. Efallai bod y cyfyngiadau symud wedi stopio ‘busnes fel arfer’, ond un peth na all Adrian ddianc oddi wrtho yw ei ddawn greadigol sydd wedi cyrraedd lefelau newydd ac wedi agor drysau newydd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.
Dywedodd Adrian, “Mae ysgrifennu’r llyfrau hyn wedi dod â llawer iawn o egni cadarnhaol yn ystod cyfnod mor anodd. Nid yn unig y mae wedi cadw fy nghreadigrwydd yn llifo, ond gobeithio y bydd yn ffurfio cyfres hirsefydlog o lyfrau ac yn parhau i fod fy etifeddiaeth a ddaeth o’r cyfyngiadau symud.”
Dilynwch Escape Blackwood ar Facebook i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r gyfres.