Ymbleserwch mewn te prynhawn traddodiadol yn Neuadd Llechwen. Mae Neuadd Llechwen yn gweini popeth y byddech yn ei ddisgwyl fel brechdanau, cacennau hufen ac, yn bwysicaf oll, eu cacennau cri traddodiadol sydd wedi’u gwneud â llaw a’u hysgeintio â siwgr.
Yn ystod misoedd yr haf, gallwch wneud y mwyaf o’r haul a mynd â’ch te y tu allan i’r teras yn yr ardd sy’n edrych dros y cymoedd islaw. Yn ystod y gaeaf, gallwch fwynhau’r awyrgylch y tu mewn i’r gwesty ac eistedd yn y bar lolfa cyfforddus.
Cynnig Arbennig – Ar gyfer partïon sy’n archebu 6 te prynhawn neu fwy, bydd pob un yn derbyn gwydraid o Brosecco am ddim.