Mae gan Goedwig Cwmcarn gabanau moethus ac ardal chwarae antur newydd.
Mae’r ardal chwarae yn cynnwys wal ddringo, sleidiau a siglenni uchel i ganiatáu i blant gael hwyl ymysg y golygfeydd.
Mae gan Goedwig Cwmcarn eisoes faes gwersylla a phodiau glampio sydd wedi cael sgôr pedair seren gan Croeso Cymru – bellach, mae hefyd chwe chaban moethus newydd. Mae’r cabanau’n amrywio o ran eu maint – mae lle i ddau berson mewn rhai a hyd at chwe pherson mewn rhai eraill. Mae gan bob un gegin, toiled, ystafell gawod a gwely dwbl.
Mae’r ddau atyniad newydd yn rhan o’r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth gan Croeso Cymru, wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae’n un o’r cyntaf i gael eu cwblhau fel rhan o brosiect sydd werth £4.6 miliwn, a gefnogir gan yr Undeb Ewropeaidd, o’r enw Triongl Antur Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog.
Mae’n cael ei gyflawni ar ffurf partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Llywodraeth Cymru.
Bydd Bwrdeistref Sirol Caerffili yn elwa ar fuddsoddiad cyfalaf o dros £1.8 miliwn yn ystod y tair blynedd nesaf.
Ymhlith gwelliannau eraill ym Mwrdeistref Sirol Caerffili mae llwybrau beicio newydd yng Nghoedwig Cwmcarn, gwaith isadeiledd ar gangen Crymlyn o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog, a gwelliannau i’r llwybr rhwng Twmbarlwm a gorllewin Torfaen.
Wrth sôn am y buddsoddiad yng Nghoedwig Cwmcarn, meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae prosiectau o’r fath wrth wraidd ein huchelgais i helpu cymunedau’r Cymoedd i ddathlu a gwneud yn fawr o’u hadnoddau naturiol a’u treftadaeth.
“Ein nod, drwy’r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth, yw canolbwyntio ymdrechion a buddsoddi ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth fel ein bod yn cael effaith wirioneddol ar broffil Cymru yn y farchnad gystadleuol fyd-eang hon.”