Trodd Tywysog yn Fwystfil erchyll trwy felltith.
Merch hardd sy’n dal o fewn ei chalon yr allwedd a fydd yn rhyddhau’r Bwystfil o’i dynged ofnadwy.
Castell arswydus.
A thylwyth teg gyda’r pŵer i newid Dyn yn Bwystfil.
Dyma rai o’r cynhwysion hudolus sydd wedi gwneud Beauty and the Beast yn ffefryn tragwyddol ymhlith darllenwyr a chynulleidfaoedd ers i’r chwedl gael ei hadrodd am y tro cyntaf tua 1740. Sydd fel y gwyddoch tua ugain munud i chwech! O dyw’r jôcs yn y panto yma ddim yn mynd yn llawer mwy ffraeth na hynny!
Mae fersiwn Rainbow Valley Productions o Beauty and The Beast yn dod â gwefr, rhamant a chyffro’r stori ynghyd â chanu a dawnsio gwefreiddiol.
Ac yn naturiol mae hefyd yn orlawn o gomedi doniol – beth arall fyddai’n ei ddisgwyl pan mai Owen Money yw seren y sioe?