Blackwood Miners’ Institute

Mae Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn ganolfan celfyddydau perfformio amlbwrpas, proffesiynol ac yn dirnod hanesyddol eiconig yng nghanol Cymoedd y De Ddwyrain. Heddiw mae’n un o theatrau prysuraf a mwyaf bywiog De Cymru.

Hanes

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon wedi cael ei weddnewid sawl tro i ddod yn lleoliad celfyddydau ac adloniant llewyrchus fel y mae heddiw.

Yn wreiddiol roedd Sefydliad Lles a Llyfrgell Glowyr Coed Duon, a adeiladwyd yn 1925 fel neuadd snwcer un llawr, yn eiddo i Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo a thalwyd amdano o gyflogau gweithwyr Glofa Oakdale ar raddfa o 3 ceiniog yr wythnos.

Yn 1936, ychwanegwyd dau lawr arall i’r adeilad i gynnwys y llwyfan, awditoriwm, llawr dawnsio, ystafell ddarllen, llyfrgell, ystafell fenywod ac ystafelloedd ymarfer i gymdeithasau lleol.

Roedd y digwyddiadau gwreiddiol a lwyfannwyd yn yr adeilad yn cynnwys dawnsfeydd amser te, snwcer / biliards, grwpiau darllen, ymarferion a chyfarfodydd undebau i’r glowyr lleol.

Ar ôl dadfeilio yn y 1970au-1980au yn sgil cau llawer o’r glofeydd lleol, cafodd yr adeilad ei drosglwyddo i Gyngor Islwyn fel ymddiriedolaeth elusennol yn 1990.

Cafodd ei adnewyddu a’i ailagor ym mis Chwefror 1992 fel lleoliad celfyddydau ac adloniant cymunedol diolch i gyllid oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Islwyn a’r Swyddfa Gymreig. Yn y gyfres o gyngherddau agoriadol perfformiodd plant ysgol lleol ar yr un llwyfan â Ken Dodd, Jasper Carrott ac Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn ymddiriedolaeth elusennol sy’n cael ei rheoli fel rhan o Wasanaeth Theatr a Chelfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Yn 2010, buddsoddodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili £1.6 miliwn mewn gwaith i’w adnewyddu’n llwyr. Cafodd y gwaith, a wnaethpwyd dros bedair blynedd, ei ariannu o Gronfa Rheoli Asedau’r awdurdod lleol.

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn cael cymorth cyllid oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Yn 2015, dyfarnodd Cyngor Celfyddydau Cymru statws Portffolio Celfyddydol Cymru i Sefydliad y Glowyr, Coed Duon.

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn adeilad rhestredig Gradd II* ac mae ganddo statws elusennol.

Essential information

Address
Address
High Street, Blackwood
NP12 1BB
Contact Name
Contact
Giles Ballisat
Email
Email Address
bmi@caerphilly.gov.uk
Phone
Phone
01495 227206
Website
Website
Website
Website
Social Media
Facebook Page
CTA Member

You may also be interested in: