Os ydych yn aros at ddibenion busnes neu bleser, bydd yr ystafelloedd gwely moethus a’u golygfeydd panoramig dros y maes golff tawel a’r wlad gyfagos yn eich galluogi i deimlo’n gartrefol ac i ymlacio’n llwyr.
Mae’r ystafelloedd wedi’u dodrefnu’n gain gyda chelfi, dodrefn meddal a baddonau a phennau sinciau marmor o’r Eidal, i’ch galluogi i ymlacio’n llwyr. I gael noson dda o gwsg, ewch i’r gwely maint brenin â’i gynfasau meddal cotwm pur a’i gwiltiau moethus. Er mwyn ail-ddeffro’ch synhwyrau, camwch i’r gawod bwerus i deimlo wedi’ch adfywio a’ch bywiogi.
Enillodd Bryn Meadows wobr “Gwesty’r Resort y Flwyddyn” yng Ngwobrau Lletygarwch Cymru 2023.