Mae darllen ac ysgrifennu yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn ei gymryd yn ganiataol nawr ond nid yn yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif. Ychydig iawn o bobl allai wneud y naill na’r llall. Bydd yr Ysgrifennwr yn dangos nid yn unig sut i greu inc o godenau derw ond bydd hefyd yn gadael i chi roi cynnig ar ysgrifennu gyda chwils wedi’u gwneud â llaw.
Bydd pris mynediad arferol y Maenordy yn berthnasol. Does dim angen cadw lle, bydd modd trefnu mynediad yn y dderbynfa wrth gyrraedd.