I ddathlu’r Nadolig, cafodd plant rhwng 4 ac 11 oed eu gwahodd i ddylunio golygfa Nadoligaidd liwgar a oedd yn cynnwys canol tref Caerffili mewn rhyw ffordd, gydag enillydd y gystadleuaeth yn cael arddangos ei waith celf fel murlun yn Y Banc yn Y Twyn.
Mae Rosie, 10 oed, o Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin wedi’i chyhoeddi fel enillydd eleni.
Y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd oedd yn beirniadu’r celf, yn ogystal â Rhiannon Taylor, Swyddog Cymorth Canol Trefi’r Cyngor, Marcus Edwards, Cynorthwyydd Llyfrgell Caerffili a Louise Whan, Arlunydd Ffenestri o The Crafty Couple.
Llwyddodd creadigaeth liwgar Rosie i dynnu sylw y beirniaid ac fe wnaeth ei llun o Gastell Caerffili greu argraff arnyn nhw.
Mae ei llun hi bellach wedi’i droi’n furlun ffenestr Nadolig yn Y Banc yn Y Twyn (hen adeilad Banc Barclays) yng nghanol tref Caerffili gan yr arlunydd Louise Whan.
Roedd yn benderfyniad anodd i’r beirniaid a oedd wrth eu bodd gyda safon y gwaith celf wedi’i gyflwyno ac maen nhw am ddiolch i bawb a gymerodd ran.