Cystadleuaeth Celf y Nadolig Coed Duon 2024

Fri 22 Nov, 12:00am - 11:59pm

Mon 09 Dec, 12:00am - 11:59pm

Dewch i greu golygfa Nadoligaidd ar gyfer Canol Tref Coed Duon!

Mae gwahoddiad i blant ysgolion cynradd ddylunio golygfa Nadoligaidd liwgar sy’n cynnwys Canol Tref Coed Duon mewn rhyw ffordd.

Bydd oriel o waith celf yn cael ei harddangos mewn lleoliad yng nghanol tref Coed Duon. Bydd cyfle hefyd i ymgeiswyr ennill gwobr Nadolig!

Dewch i gasglu ffurflen gais o Lyfrgell Coed Duon neu Sefydliad y Glowyr, Coed Duon rhwng dydd Gwener 22 Tachwedd a dydd Llun 9 Rhagfyr 2024.

Rhaid cyflwyno’ch gwaith celf a’ch ffurflen gais i Lyfrgell Coed Duon erbyn dydd Llun 9 Rhagfyr 2024.

Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rydych chi’n cytuno y gall y gwaith celf gael ei gyhoeddi a’i ddefnyddio fel arall. Ni fydd modd dychwelyd eich lluniau.

I gael manylion am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cystadleuaethau a Rafflau Mawr ar wefan y Cyngor.



Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

Essential information

Address
Address
Llyfrgell Coed Duon
NP12 1AJ
Contact Name
Contact
Tîm Rheoli Canol y Dref

You may also be interested in: