Cystadleuaeth Gwisgo Ffenest Nadolig CBSC 2024 – Coed Duon

Llongyfarchiadau i Kismet Blackwood a gafodd eu coroni’n ddiweddar yn enillwyr Cystadleuaeth Gwisgo Ffenest Nadolig Coed Duon ar gyfer 2024!

Roedd y beirniaid wedi’u plesio gan yr arddangosiadau trawiadol ar draws nifer o ffenestri’r siop, a oedd yn cynnwys gosodiad Nadolig gaeafol (ynghyd â phêl disgo) a ffenest yr ystafell de i fyny’r grisiau yn arddangos coeden gyda bocsys Nadolig a goleuadau.

Mae Kismet Blackwood wedi bod yn masnachu ers 20 mlynedd eleni ac maent yn fusnes teuluol balch. Fe’u lleolir yn Adeiladau’r Pier rhwng y Stryd Fawr a Stryd y Neuadd. Sue Jenkins yw perchennog gwreiddiol y busnes ac mae wedi ymddeol ers hynny ond mae ganddi lawer i’w wneud â’r siop o hyd, gan gynnwys addurno’r ffenestri. Mae Sara Lewis wedi cymryd awenau rhedeg y siop gan ei mam Sue, ac yn cael ei hysbrydoli gan ei chariad at greadigrwydd ym mhob rhan o’r siop.

Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae Kismet wedi profi cyfnodau da a gwael, dirwasgiad, y pandemig ac argyfwng costau byw. Maen nhw bob amser yn ceisio newid i gadw’r busnes i fynd, fel y gwnaethon nhw yn 2012 trwy agor yr ystafell de i fyny’r grisiau sy’n gwerthu cacennau a choffi blasus. Yn y blynyddoedd diwethaf maent wedi cyflwyno eu gwefan i’r siop, gan roi cyfle i gwsmeriaid bori drwy’r stoc am syniadau anrhegion. Daeth hyn yn arbennig o ddefnyddiol pan nad oeddent yn gallu masnachu yn ystod y pandemig, gan roi cyfle i gwsmeriaid lleol brynu trwy glicio a chasglu.

Pan gafodd wybod bod Kismet wedi’i dewis fel enillydd Coed Duon, dywedodd Sara “Diolch yn fawr iawn am werthfawrogi ein ffenestri, rydyn ni wrth ein bodd! Hoffem hefyd ddiolch i’n cwsmeriaid am eu cefnogaeth barhaus gan na fyddem yma hebddynt”.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Kismet neu eu tudalen Facebook.

Essential information