Bydd Bargod yn dod yn fyw ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr, wrth i’r dref gynnal ei ffair Nadoligaidd flynyddol.
Bydd stondinau Nadoligaidd, adloniant a reidiau ffair yn dod â’r fflach Nadoligaidd ychwanegol hwnnw i’r dref, gan gynnig gwledd go iawn i drigolion lleol.
Bydd Cyngor Tref Bargod yn cynorthwyo’r digwyddiad gydag ymddangosiad gan Siôn Corn ac ychydig o adloniant Nadoligaidd hwyliog.
Mae gan ganol tref Bargod ystod fendigedig o siopau annibynnol a brandiau’r stryd fawr hefyd, sy’n rhoi cyfle i chi ddechrau ar eich siopa Nadolig. Profwch dref fach sydd â llawer i’w gynnig!
Mae Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf ym Margod AM DDIM!
Am ragor o wybodaeth, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Oes diddordeb gennych chi mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn? Cysylltwch â digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i gynorthwyo gan Gyngor Tref Bargod.
Mae Bargod yn Dref Smart!
Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Bargod, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.
Lawrlwythwch am ddim, yma.
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.