Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf yng Nghaerffili yw’r lle perffaith i chi deimlo ysbryd y Nadolig. Profwch olygfeydd, seiniau ac arogleuon y dref a’r castell wrth baratoi ar gyfer y Nadolig, gyda bwyd stryd blasus, arogl gwin brwd, theatr stryd gyffrous a dros 60 o stondinau bwyd, crefft a rhoddion, gan gynnwys atyniadau ffair i ddiddanu’r holl deulu!
Yn rhan o’r digwyddiad hudolus hwn mae’r Orymdaith Lusernau Afon y Goleuni sy’n dechrau am 5:30pm ac yn gorffen gydag Arddangosfa Tân Gwyllt am 6:15pm!
Wrth ymweld â Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf yng Nghaerffili, cofiwch fynd i’r Farchnad Ffermwyr boblogaidd yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Ffair Grefftau Crafty Legs wrth y Senotaff, a Marchnad Crefft a Bwyd Cwrt y Castell yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell. Mae’r holl farchnadoedd hyn yn ategu Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili, a’r cymysgedd o siopau annibynnol a siopau’r stryd fawr sydd yn y dref.
Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM! Mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol i’r castell.
Am ragor o wybodaeth, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Oes diddordeb gennych chi mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn? Cysylltwch â digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Mae Cyngor Tref Caerffili yn cynorthwyo’r digwyddiad hwn.
Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Yn mynd i Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili, dydd Sadwrn 30 Tachwedd? Dyma ychydig o wybodaeth am barcio a thrafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y digwyddiad! ℹ️
Parcio
Mae parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:
– Maes Parcio Station Terrace, CF83 1JU (talu ac arddangos)
– Cyfleuster Parcio a Theithio Caerffili, CF83 1JU (am ddim)
– Maes Parcio Crescent Road, CF83 1AB (talu ac arddangos)
– Morrisons / Canolfan Siopa Cwrt y Castell, CF83 1XP (am ddim, hyd at 3 awr)
– Parcio-a-Cherdded (wedi’i farcio’n goch ar y map) yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni y Gwyndy, Heol Pontygwindy, CF83 3HG (£2 tâl)
❗️ Mae pob un o’r meysydd parcio uchod yn cynnwys mannau parcio i’r anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Rheseli Beiciau
Gellir dod o hyd i rheseli beiciau yng ngorsaf drenau Caerffili, ledled Heol Caerdydd, o amgylch y Twyn a thu allan i Morrisons.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae Cyfnewidfa Drafnidiaeth Caerffili wedi’i lleoli gerllaw safle’r digwyddiad, gyda threnau i ac o Fargoed a Chaerdydd bob 15 munud a threnau i ac o Rhymni bob awr. Mae gorsaf fysiau Caerffili hefyd yn darparu cysylltiadau uniongyrchol â Chaerdydd a llwybrau eraill ledled y fwrdeistref. Ewch i https://tfw.wales a https://www.traveline.cymru/ am ragor o wybodaeth am amserlenni trenau a bysiau.
Mae Caerffili yn Dref Smart!
Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.
Lawrlwythwch am ddim, YMA.
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.