Gyda gofid mawr, rhaid i ni gyhoeddi na fydd Ffair y Gaeaf, Coed Duon, yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024.
Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad agos â chyflenwr y stondinau, y Swyddfa Dywydd a daroganwyr tywydd amrywiol drwy gydol yr wythnos, ond yn anffodus, mae’r rhagolygon bellach wedi datblygu i fod yn system stormydd o’r enw Storm Bert gan ddod â gwyntoedd cryfion a glaw i Gymru.
Yn seiliedig ar y wybodaeth hon, does gennym ni ddim dewis ond canslo’r digwyddiad, gan fod diogelwch yn hollbwysig i drefniadaeth ein holl ddigwyddiadau ac er mwyn rhoi digon o amser i fasnachwyr, cyflenwyr ac ymwelwyr aildrefnu eu cynlluniau.
Y flwyddyn nesaf, bydd y Coed Duon yn cynnal rhaglen wych o ddigwyddiadau a byddwn ni’n sicrhau bod y gyllideb o’r ffair hon yn cael ei dyrannu i Ffair y Gwanwyn 2025, dydd Sadwrn 8 Mawrth, er mwyn sicrhau ei bod yn fwy ac yn well nag erioed – felly cadwch lygad yn agored.
Cofiwch gefnogi canol tref Coed Duon yn y cyfnod cyn y Nadolig; roedd y busnesau’n edrych ymlaen at y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a ddaw yn sgil y ffair aeaf felly cofiwch ymweld â nhw.
Mae dwy ffeiriau’r Gaeaf arall yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn 30 Tachwedd yng Nghaerffili a dydd Sadwrn 7 Rhagfyr ym Margod, felly dewch draw i’r rhain. Os ydych yn chwilio am rai gweithgareddau dan do y penwythnos hwn, mae gweithdai Gwneud Llusernau Caerffili yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn a dydd Sul yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn ac mae Gweithdai Gwneud Llusernau Bargod yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn yn Neuadd Eglwys Santes Gwladys.
Mae’r Coed Duon yn Dref Smart!
Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Coed Duon, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.
Lawrlwythwch am ddim, yma.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.