Beth am ddianc rhag diflastod y gaeaf ac ymuno â ni wrth i ni ddechrau ein rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer 2025! Ar gyfer ein digwyddiad cyntaf y flwyddyn, byddwn yn mynd i ganol tref Coed Duon ar gyfer ei Ffair y Gwanwyn flynyddol!
Fferm anwesu, reidiau ffair, gweithdai i blant, theatr stryd, adar ysglyfaethus… Dyma rai o’r pethau a fydd yn Ffair y Gwanwyn, Coed Duon! Gyda llwyth o stondinau bwyd a chrefft, ffair bleser, a digonedd o weithgareddau a pherfformiadau stryd, bydd rhywbeth at ddant pawb! Felly, dewch draw i gael diwrnod llawn hwyl gyda’r teulu a chael cyfle i wneud dangos cefnogaeth i fusnesau lleol!
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn High Street, NP12 1AH, lle bydd y ffyrdd ar gau.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.
Trefnir y digwyddiad hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Cliciwch neu daro ar y llun isod i weld fersiwn sgrin lawn o fap parcio cyhoeddus Ffair y Gwanwyn, Coed Duon.
Mae mannau parcio cyhoeddus, gan gynnwys mannau parcio i’r anabl, ar gael yn y lleoliadau canlynol:
❗️ Mae parcio am ddim ar gael ym Mharc Manwerthu Coed Duon; fodd bynnag, mae’r maes parcio hwn wedi’i ddynodi ar gyfer cwsmeriaid y parc manwerthu a gallwch chi ond yn aros am uchafswm o 2 awr.
❗️ Mae gan bob un o’r meysydd parcio uchod gilfachau parcio i bobl anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Bydd rheseli beiciau ar gael yn y lleoliadau canlynol:
Mae bysiau yng Ngorsaf Fysiau Coed Duon yn teithio i, ac yn dod yn ôl o Abertyleri, Bargod, Caerdydd, Cwmbrân, Casnewydd, Pontypridd, Tredegar, Ystrad Mynach ac eraill.
I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Goed Duon ac yn ôl, ewch i wefan Traveline Cymru.
Dros 50 o stondinau masnach yn gwerthu bwyd blasus a chrefftau unigryw yn
ogystal ag ychydig o stondinau gwybodaeth. Mwynhewch gacennau blasus a chael
blas o ddiod neu ddwy gan y gwerthwyr gwirodydd a seidr! Prynwch anrhegion
crefft unigryw i’r teulu a ffrindiau neu beth am rhywbeth bach i chi eich hun neu hyd
yn oed eich anifail anwes!
Dyma rai o’r adloniant a’r gweithgareddau gwych y byddwch chi’n eu gweld yn y digwyddiad:
Mae’r Coed Duon yn Dref Smart!
Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair y Gwanwyn, Coed Duon, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.