Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach 2024

March 23, 9:00am - March 23, 5:00pm

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol!

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.

Beth am ddianc rhag diflastod y gaeaf ac ymuno â ni wrth i ni ddechrau ein rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer 2024! Ar gyfer ein digwyddiad cyntaf y flwyddyn, byddwn yn mynd i ganol tref Ystrad Mynach ar gyfer ei Ffair Wanwyn flynyddol!

Bydd stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair hwyl i blant ac adloniant gwych; bydd y dref yn dod yn fyw wrth i dymor y gwanwyn gyrraedd. Os ydych chi’n chwilio am ychydig o oriau allan gyda’r teulu, beth am ddod draw i Ystrad Mynach ac ymuno yn yr hwyl? 

Mae canol y dref yn cynnig dewis hyfryd o siopau annibynnol ac mae amrywiaeth o leoliadau bwyta allan ledled y dref, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, Canol Tref Ystrad Mynach, CF82 7AB, lle bydd y ffyrdd ar gau.

Mae’r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.


Parcio a Trafnidiaeth

Cliciwch neu daro ar y llun isod i weld fersiwn sgrin lawn o fap parcio cyhoeddus Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach.

Parcio

Bydd mannau parcio cyhoeddus, gan gynnwys mannau parcio i’r anabl, ar gael yn:

  • Ysgol Ferched Lewis, CF82 7WW (am ddim)
  • Maes Parcio Oakfield Street, CF82 7WX (talu ac arddangos)
  • Tesco, CF82 7DP (am ddim am 2 awr, yn gyfyngedig i gwsmeriaid Tesco yn unig)
  • Aldi, CF82 8AA (am ddim am 2 awr, yn gyfyngedig i gwsmeriaid Aldi yn unig)

Sicrhewch eich bod yn gwirio’r arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.

Raciau Beic

Gellir dod o hyd i raciau beic yn:

  • Llyfrgell Ystrad Mynach, CF82 7BB
  • Gwaelod Heol Bedwlwyn, CF82 7AD
  • Gorsaf Drenau Ystrad Mynach, CF82 7BQ
  • Tesco, CF82 7DP

Rhaglen Adloniant

Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant yn lawn.

Mae gweithgareddau ac adloniant yn Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach yn cynnwys:

  • Cwrdd â Chwningen y Pasg a’i chyfarch
  • Alice in Pantoland gyda Gelligaer Community Council yng Nghanolfan Gristnogol Siloh (Mae tocynnau yn £1 wrth y mynediad)
  • Adar ysglyfaethus gyda Falconry UK
  • Gweithdai crefft
  • Anifeiliad egsotig
  • Reidiau ffair
  • Tatŵs gliter, gliter gŵyl, sesiwn faldodi fach i blant a bwth ffotos gyda TCG Experience – Children’s Entertainment Service a Gwenllian Katie Beauty
  • Paul Wheelers Punch and Judy Show
  • Fferm anwesu gyda Mike’s Donkeys
  • Paentio wynebau gyda Traceys Funky Faces

Rhestr Stondinau

Wedi’i ddiweddaru: Dydd Mawrth 6 Chwefror 2024

Stondinau Consesiwn

Enw’r busnes Cynhyrchion/gwasanaethau i’w gwerthu/arddangos
Cad’s Coffee Limited – Really Awesome Coffee – Newbridge Diodydd poeth – Coffi, ysgytlaethau, bariau o siocled, creision, myffins, a fflapjacs
Aga Farm Heritage Breeds Bwyd poeth – byrgyrs
Signore Twister Byrbrydau Poeth a Diodydd – tatws troellog, diodydd poeth ac oer
Dinky Donuts Byrbrydau Poeth a Diodydd – Dinky Donuts ffres, diodydd poeth ac oer, conau eira
Fablas Ice Cream Ltd Hufen iâ – Hufen iâ llaethdy wedi’i wneud â llaw, sydd wedi ennill sawl gwobr

Stondinau Bwyd, Diod, Chrefft a Wybodaeth

Enw’r Busnes Cynhyrchion/gwasanaethau i’w gwerthu/arddangos
Ally’s Confectionary Losin traddodiadol, losin gwreiddiol, candi-fflos a diodydd meddal
Baker Bears Teisennau cwpan, brownis, blondis, sgwariau caramel a siocled, ‘rocky road’, pasteiod cwcis, jareidiau o deisen, lolipops teisen.
CCBC Mobile Hub Gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau’r Cyngor.
Crystal Crysalis Crisialau go iawn ym mhob ffurf, er enghraifft tyrau, cerrig wedi’u treiglo, cerfiadau, sfferau, cylchoedd allweddi, modrwyau ac ati, yn ogystal â ffyn arogldarth a phecynnau anrhegion.
Fine Food Land Ltd Olifau, melysyn Twrci, baclafa, cnau
Forever Fudge Dros 37 o wahanol fathau o gyffug, taffi pysgnau, nyget, taffi diliau mêl a cheblau licris wedi’u gwneud â llaw
Gelicious Melts Toddion cwyr gel – Hyd at 50 o arogleuon, tiwbiau aroglau, llosgwyr toddi cwyr ceramig/trydan
Gelligaer Community Council Eitemau hyrwyddo
Gwent Wildlife Trust Stondin gwybodaeth elusennol yn hyrwyddo’r Ymddiriedolaeth Natur – gwarchodfeydd natur cyfagos, ein prosiectau lleol, cyfleoedd gwirfoddoli yn ogystal â chynnig aelodaeth i’r rhai sydd â diddordeb.
Karen’s Bookshop in Partnership with Usborne Llyfrau plant, jig-sos, gemau bwrdd a chardiau snap Usborne
Little Grandma’s Kitchen Siytni, ceuled, cyffeithiau, marmalêd, pâst, mwstard a bocsys anrhegion sydd wedi ennill sawl gwobr
Llangattock Apiaries Cynnyrch mêl a chŵyr gwenyn
Mālama Co. Teganau meddal (morfil, crwban, siarc, cwningen, llwynog, ci, coala), ratlau torri dannedd meddal (cwningen, llwynog, ci, coala), cysurwyr torri dannedd pren silicon (3 lliw), clipiau dymi (8 lliw)
Mallows Bottling Limited Alcohol – Bourbon, Gin, Rym, Amaretto, Fodca Taffi
My Little Pests Ategolion gwallt a gemwaith i blant – breichledau, mwclis, modrwyau ac ati.
Nuts About Cinnamon Cnau â sglein sinamon (cnau daear, pecanau, almonau, cnau cashiw a chnau cyll)
Pasithea Lluniau cerrig bychain, calonnau llechi, celf acrylig, olewon naws a llosgwyr olew, conau/ffyn arogldarth, llosgwyr arogldarth, bomiau bath a chanhwyllau wedi’u persawru.
Plenty Pies Cig arbennig wedi’i goginio a phasteiod sawrus heb gig
Rae’s Grace Cakes Cacennau cwpan, cacennau mawr fesul tafell, cacennau hambwrdd, cwcis, brownis
RNLI Cwpanau, bocsys bwyd a ffrisbis fel rhoddion ar gyfer cofrestru ar gyfer aelodaeth. Gwybodaeth diogelwch dŵr.
Royal Air Force Air Cadets Recriwtio cadetiaid newydd ac oedolion sy’n gwirfoddoli mewn lluoedd cadetiaid: Baneri, taflenni, nwyddau brand Cadetiaid Awyr y Llu Awyr Brenhinol (RAFAC) am ddim. Hefyd, codi arian ar gyfer Sgwadron
SamosaCo Samosas, bhajis, wyau selsig bhaji winwns, rholiau cebab, picls, siytni, sawsiau
The House of Bark Cynhyrchion i gŵn a chathod. Mae’r rhain yn cynnwys powlenni bwydo, teganau, anrhegion, danteithion a danteithion cnoi, dillad, dillad gwely, eitemau teithio, ategolion, cynhyrchion trin gwallt
The Pattyman Sawsiau Cymru/Jamaica, marinâd, jeli, enllyn, pasteianau Jamaica, teisennau pasteian
The Slime Factory Pecynnau gwneud sleim ac ategolion, gweithdai gwneud sleim
Truth in a Trailer Dosbarthu deunydd darllen Cristnogol am ddim a chyfryngau eraill; bagiau siopa am ddim gydag adnod o’r Beibl
Utility Warehouse Gwybodaeth ynni
Williams Brothers Cider Alcohol – Seidr, perai a sudd afal.

Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau’r Gwanwyn Cyngor Caerffili 2024

Gweler yr hysbysiadau isod am wybodaeth bwysig ynghylch cau ffyrdd, systemau traffig a mynediad i breswylwyr/manwerthwyr yn ystod ein Digwyddiadau Gwanwyn 2024 ni.

Cliciwch neu daro ar y delweddau i gael fersiwn sgrin lawn o’r Hysbysiad i Breswylwyr a Manwerthwyr.


Mae Ystrad Mynach yn Dref Smart!

Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.

Lawrlwythwch am ddim yma.


Bydd cymorth gan Biffa, a fydd yn darparu biniau am ddim i helpu i gadw Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach, yn lân.

 

 

 


Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

 

 

 

Essential information

Address
Address
Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, Canol Tref Ystrad Mynach
CF82 7AB
Contact Name
Contact
Tîm Digwyddiadau CBSC

You may also be interested in: