Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.
Beth am ddianc rhag diflastod y gaeaf ac ymuno â ni wrth i ni ddechrau ein rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer 2024! Ar gyfer ein digwyddiad cyntaf y flwyddyn, byddwn yn mynd i ganol tref Ystrad Mynach ar gyfer ei Ffair Wanwyn flynyddol!
Bydd stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair hwyl i blant ac adloniant gwych; bydd y dref yn dod yn fyw wrth i dymor y gwanwyn gyrraedd. Os ydych chi’n chwilio am ychydig o oriau allan gyda’r teulu, beth am ddod draw i Ystrad Mynach ac ymuno yn yr hwyl?
Mae canol y dref yn cynnig dewis hyfryd o siopau annibynnol ac mae amrywiaeth o leoliadau bwyta allan ledled y dref, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, Canol Tref Ystrad Mynach, CF82 7AB, lle bydd y ffyrdd ar gau.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.
Cliciwch neu daro ar y llun isod i weld fersiwn sgrin lawn o fap parcio cyhoeddus Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach.
Bydd mannau parcio cyhoeddus, gan gynnwys mannau parcio i’r anabl, ar gael yn:
Sicrhewch eich bod yn gwirio’r arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Rheseli Beic
Gellir dod o hyd i raciau beic yn:
Cyhoeddir rhaglen adloniant lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Mae Ystrad Mynach yn Dref Smart!
Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.