Parti Traeth Rhisga 2024

Ymunwch a’r digwyddiad swyddogol Facebook!

Mae Parti Traeth Rhisga yn ddigwyddiad sy’n cael ei gynnal o 10am tan 4pm ar ddydd Sadwrn 8 a dydd Sul 9 Mehefin ym Mharc Tredegar, sydd wedi’i leoli oddi ar Tredegar Street yng nghanol tref Rhisga!

Bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn gartref i draeth anferth yn llawn cadeiriau cynfas a theganau traeth i ddiddanu pawb. Bydd sioeau Pwnsh a Siwan yn cael eu cynnal yn rheolaidd drwy gydol y dydd a bydd detholiad o reidiau ffair i bobl ifanc, ynghyd ag amrywiaeth o atyniadau i ddiddanu pawb!

Bydd nifer fach o stondinau yn gwerthu losin, brownis, a phice ar y maen, yn ogystal â diodydd poeth ac oer, tatws ar ffurf troell, ‘Dinky Donuts’ a’r fan hufen iâ holl bwysig! Beth am fentro i’r dref a #DewisLleol… dewch â sglodion neu ddanteithion picnic yn ôl i’w mwynhau ar y traeth a chefnogi’r manwerthwyr lleol… gwyliwch yr asynnod ond peidio â cheisio ymuno â’r amser bwydo!

Mae digon o fannau agored yn y parc ar gyfer picnic hefyd, felly, dewch â’ch blancedi a’ch danteithion gyda chi ac aros am y diwrnod! (Sylwer: ni chaniateir alcohol yn y digwyddiad.)

I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.

❗️ Sylwer: mae croeso mawr i gŵn ddod i Barti Traeth Rhisga, ac eithrio ardal y traeth am resymau iechyd a diogelwch. Er bod croeso i gŵn yn ein digwyddiadau, efallai y bydd y nifer fawr o bobl yn codi ofn ar rai cŵn, a all fod yn niweidiol i’w lles ac achosi iddyn nhw frathu. Mae perchnogion sy’n dod â chŵn i ddigwyddiad yn gwneud hynny ar eu menter ac atebolrwydd eu hunain.


Rhaglen Adloniant

Dyma rai o’r gweithgareddau ac adloniant y gallwch chi ddisgwyl eu gweld ym Mharti Traeth Rhisga:

  • Traeth anferth
  • Dathlu diwrnod Ghostbusters (dydd Sadwrn yn unig)
  • Adar ysglyfaethus (dydd Sul yn unig) ac anifeiliad egsotig
  • Reidiau ffair hwyl
  • Reidiau ar gefn asynnod a fferm anwesu
  • Sioe Pwnsh a Jwdi Paul Wheeler
  • Paentio wynebau (Dydd Sadwrn yn unig)
  • Stondinau bwyd a diod
  • Gweithdai crefft i blant AM DDIM
  • Hwyl môr-ladron

Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant lawn!


Gwybodaeth Teithio a Parcio

Parcio Ceir

Mae parcio i’r cyhoedd ar gael am ddim yn y meysydd parcio cyfagos canlynol:

  • Maes parcio Tredegar Terrace, NP11 6BY
  • Parcio a Theithio Gorsaf Reilffordd Rhisga a Phont-y-meister, NP11 6BD
  • Maes parcio Tesco Extra (amser cyfyngedig ac ar gael i gwsmeriaid yn unig), NP11 6NP

Mae gan bob un o’r meysydd parcio uchod gilfachau parcio i bobl anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym
mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Gwasanaethau Trên

Gallwch chi gyrraedd safle’r digwyddiad yn Nhiroedd Tredegar, NP11 6BX, mewn 7 munud ar droed o
orsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meistr.

  • Mae gorsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meister ar reilffordd Glyn Ebwy, ac mae trenau’n rhedeg bob awr i Chasnewydd ac yn ôl a bob 30 munud i Lynebwy a Chaerdydd Canolog ac yn ôl. Efallai y bydd tarfu ar wasanaethau rheilffordd, gwiriwch ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i wasanaethau.

Gwasanaethau Bws

Mae safleoedd bysiau Eglwys y Bedyddwyr Moriah a Spar, yn Rhisga, yn union y tu allan i safle’r digwyddiad yn Nhiroedd Tredegar.

  • X15 (Stagecoach): Bryn-mawr – Casnewydd trwy Drecelyn ac Abertyleri
  • 56 (Stagecoach): Tredegar – Coed Duon – Casnewydd
  • 151 (Stagecoach): Coed Duon – Casnewydd trwy Drecelyn a Rhisga
  • R1 (Newport Bus): Casnewydd – Ty Sign – Rhisga
  • R2 (Newport Bus): Tŷ-du (Morrisons) – Fernlea – Rhisga

I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Risga ac yn ôl, ewch i wefan Traveline Cymru.

Rheseli Beiciau

Mae rheseli beiciau ar gael y tu allan i Lyfrgell Rhisga, NP11 6BW.


Rhestr Stondinau

Enw’r busnes Cynhyrchion/gwasanaethau i’w gwerthu/arddangos
Ally’s Confectionary Losin traddodiadol, losin gwreiddiol, candi-fflos a diodydd meddal
Baker Bears Teisennau cwpan, brownis, blondis, sgwariau caramel a siocled, ‘rocky road’, pasteiod cwcis, jareidiau o deisen, lolipops teisen.
CCBC Mobile Hub Gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau’r Cyngor. Will vary from event to event but includes cost of living, employment, training and education (Multiply), sioeau yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, Supported Lodgings, 16+ Team, Recycling, Citizens advice
Dinky Donuts Byrbrydau Poeth a Diodydd – Dinky Donuts ffres, diodydd poeth ac oer, conau eira
Eleri’s Welsh Cakes Homemade Welsh cakes in a variety of traditional and contemporary flavours.
Falconry UK Birds of prey static display
Lee’s Ices Consesiwn – hufen ia, ice lollies, slush, drinks and confectionary
Rae’s Grace Cakes Cacennau cwpan, cacennau mawr fesul tafell, cacennau hambwrdd, cwcis, brownis
The Slime Factory Pecynnau gwneud sleim ac ategolion, gweithdai gwneud sleim
Tracey’s Funky Faces Paentio wynebau

Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau Canol Trefi Cyngor Caerffili, Haf 2024

Gweler yr hysbysiadau isod am wybodaeth bwysig ynghylch cau ffyrdd, systemau traffig a mynediad i breswylwyr/manwerthwyr yn ystod ein Digwyddiadau’r Haf 2024 ni.

Cliciwch neu daro ar y delweddau i gael fersiwn sgrin lawn o’r Hysbysiad i Breswylwyr a Manwerthwyr.


Mae Coleg Gwent yn falch i noddi Parti Traeth Rhisga!

Ymunwch â nhw am brofiad bythgofiadwy yn eu sioe ‘Dod o hyd i’ch dyfodol’ yn Friars Walk, Casnewydd, rhwng 10 a 13 Mehefin. Mae hwn yn gyfle gwych i ddarpar fyfyrwyr archwilio eu camau nesaf, cwrdd â chyflogwyr, a chael yr arweiniad sydd ei angen arnoch chi i lunio’ch dyfodol. Peidiwch â cholli allan ar y cyfle hwn i ddod o hyd i’ch dyfodol gyda Choleg Gwent!


Mae Rhisga yn Dref Smart!
Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi ym Mharti Traeth Rhisga, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.
Lawrlwythwch am ddim, yma!


Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

#CroesoCaerffili #DewisLleol #UKSPF

 

 


 

Essential information

Address
Address
Parc Tredegar, Rhisga
NP11 6BX
Phone
Phone
01443 866390
Website
Social Media
Facebook
Instagram
Twitter
Charges
Charges
AM DDIM
Pet Friendly
Pet Friendly

You may also be interested in: