Gallwch chi wneud eich pice ar y maen eich hun yn hawdd, a’u mwynhau gartref, drwy ddilyn rysáit Katie Davies, o’r rhaglen deledu ‘Britain’s Best Home Cook’, yma:
www.katiehomecook.co.uk/welshcakes
Ymddangosodd Katie ar gyfres gyntaf y rhaglen deledu, ‘Britain’s Best Home Cook’, yn 2018. Mae hi’n driniwr galwadau brys ac yn anfonwr i’r Heddlu, ac mae’n byw yng Nghastell-nedd.
Daeth Katie hyd yn oed i Ŵyl Fwyd Caerffili a Gŵyl y Caws Mawr yn 2019, ac mae’n disgrifio’i hun fel “Cymraes 1000%”.