Pride Caerffili 2024

Edrychwch ar dudalen y digwyddiad ar Facebook.

Cofrestrwch i ddweud byddwch chi yng Ngorymdaith Pride Caerffili eleni yma!

Ymunwch â ni yn Pride Caerffili a fydd yn digwydd rhwng 12pm-7pm ar ddydd Sadwrn 15 Mehefin 2024.

Gall ymwelwyr ddisgwyl digwyddiad i’r teulu cyfan, gan gydnabod a dathlu’r cyfraniadau gan bobl LHDTC+ yn ein cymdeithas. Ar y diwrnod, bydd adloniant byw a Gorymdaith Balchder eiconig i ddathlu.

Bydd yr orymdaith, noddwyd gan DS Smith, yn cychwyn o Ysgol Martin Sant, Caerffili am 12pm, gan anelu lawr drwy’r dref ac yn mynd o amgylch Maes Parcio’r Twyn lle bydd yn gorffen.

Bydd yn ddiwrnod gwych llawn cerddoriaeth fyw, adloniant a dathlu wrth ddod at ein gilydd mewn cefnogaeth dros y gymuned LHDTC+ ym mwrdeistref sirol Caerffili.

Mae canol y dref yn cynnig dewis hyfryd o siopau annibynnol ac mae amrywiaeth o leoliadau bwyta allan ledled y dref, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ym Maes Parcio’r Twyn, Canol Tref Caerffili, CF83 1JL, lle bydd y ffordd ar gau ar hyd Twyn Road.

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i cydraddoldeb@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864404 / 864353.

Mae’r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.


Prif Lwyfan

Dyma’ch rhestr o artistiaid ar gyfer y brif lwyfan Pride Caerffili 2024!

Amser Perfformwyr
12:00 Katy Harriz & Simone
13:00 Tina Sparkle
13:05 Dawnswyr Turn’d Up
13:20 Paterson
13:40 Glitch Please
14:10 Côr Meibion Hoyw De Cymru
14:30 Delicious Dee
15:00 Vanity Act
15:25 Russell Jones Jr.
15:55 Catrin Feelings
16:00 Superchoir
16:15 Myst Fortune
16:30 Becky Winfield
17:00 Ember Collective
17:30 Jordropper
18:00 Scarlet Allure
18:25 DJ Katy Harriz
18:55 Catrin Feelings
19:00 Ar gau

Ôl-Bartïon

Bydd y prif ddigwyddiad yn dod i ben am 7pm, ond does dim rhaid i’r hwyl ddod i ben hefyd! Bydd nifer o leoliadau o amgylch Caerffili yn cynnal eu hôl-bartïon Pride eu hunain, gan gynnwys:

Felly arhoswch o gwmpas a chadw’r parti i fynd!


Pecyn Gwybodaeth yr Orymdaith 15 Mehefin 2024

Rydyn ni wedi cyffroi’n lân i’ch croesawu i nôl i Pride Caerffili yn dilyn diwrnod bendigedig y llynedd!

Unwaith eto, byddwn yn cychwyn gyda’n Gorymdaith Pride Caerffili, noddwyd gan DS Smith, o Ysgol Gyfun Martin Sant, Hillside, Caerffili, CF83 1UW.

O’r fan honno, byddwn ni’n mynd lawr drwy ganol y dref ac yn gorymdeithio o amgylch y Twyn, heibio Bandstand Ieuenctid Pride Caerffili, a noddir gan Robert Price Builders’ Merchants.

Bydd rhan olaf ein Gorymdaith yn mynd yn ôl i Faes Parcio’r Twyn, a fydd dan ei sang gyda bwyd, diod a stondinau gwybodaeth, yn barod i ni fwynhau diwrnod llawn hwyl gyda’n Llwyfan Adloniant Pride Caerffili, a noddir gan Unite Wales.

Er y bydd aelodau o’r cyhoedd yn gallu dod ac ymuno yn yr Orymdaith ar y bore, rydyn ni’n dal i ofyn i chi gymryd 2 funud i roi gwybod i ni eich bod yn dod trwy lenwi’r ffurflen mynychu’r digwyddiad. Bydd hyn yn ein helpu i gael brasamcan o faint o bobl i’w ddisgwyl ac i sicrhau bod digon o stiwardiaid ar gael i’ch diogelu.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, mae croeso i chi anfon e-bost aton ni: cydraddoldeb@caerffili.gov.uk.

Gobeithio eich bod chi’n edrych ymlaen at Pride Caerffili gymaint â ni! Cofiwch ymuno â’n tudalen digwyddiad Facebook a Instagram a defnyddio #PrideCaerffili i rannu eich postiadau gyda ni.

Cynllun Gorymdaith Pride Caerffili*

  • Blaen – Samba Galêz
  • CBSC a Gwesteion
  • Prif Noddwr yr Orymdaith – DS Smith
  • Noddwyr Pride Caerffili – Unite the Union, Robert Price Builders’ Merchants, Nuaire, ACT Training, Castell Howell
  • Cynghorau Balch
  • Ysgolion
  • Gwasanaeth Ieuenctid
  • Perfformwyr
  • Busnesau, Sefydliadau a Chymdeithasau
  • Cefn – Aelodau’r Cyhoedd

*Sylwch y gall hyn newid yn ddibynnol ar niferoedd.

Dechrau’r Orymdaith

Gofynnwn i bawb geisio cyrraedd Ysgol Martin Sant erbyn 11:45 fan bellaf, er mwyn i ni gyd fod yn barod i adael yn brydlon am 12pm. Bydd gennym ni stiwardiaid a gwirfoddolwyr ar y safle i’ch helpu chi i fynd i’ch lle wrth i chi gyrraedd, ond gan nad ydyn ni’n gwybod pa mor brysur fydd yr orymdaith, rydyn ni’n eich cynghori chi i gyrraedd yn gynnar, felly bydd mynediad ar gael o 11am.

Bydd lluniaeth ysgafn ar werth yn yr ysgol wrth i chi aros, ynghyd â thoiledau, a byddwn ni hefyd yn sicrhau bod digon o gerddoriaeth i’ch paratoi chi ar gyfer hwyl yr Orymdaith! Cofiwch ddod â’ch fflagiau, eich baneri a’ch lliwiau llachar gyda chi i helpu i wneud y diwrnod mor wych a lliwgar â phosib!

Sylwch, ni fydd parcio ar y safle ar gyfer yr Orymdaith ac rydyn ni’n disgwyl i ganol y dref fod yn brysur, felly rydyn ni’n annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo modd.

  • 11:00am – Giatiau’r ysgol yn agor
  • 11:45am – Pawb yn eu safleoedd yn barod i fynd
  • 12:00pm – Bant â ni! Gorymdeithiwn lawr drwy’r dref ar hyd lwybr yr orymdaith.
  • 1:00pm – 7:00pm – Adloniant ar y Brif Lwyfan a noddir gan Unite The Union
  • 1:00pm – 6:00pm – Adloniant ar y Bandstand a’r Ardal Ieuenctid a noddir gan Robert Price Builders’ Merchants

Parcio a Thrafnidiaeth

Rheseli Beiciau

Mae nifer o reseli beiciau yng nghanol tref Caerffili. Mae rheseli beiciau ar gael ledled Cardiff Road, y Twyn a thu allan i Morrisons.

Trafnidiaeth Cyhoeddus

❗️ Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.

Gwasanaethau Bws

Gwasanaethau Tren

Mae disgwyl i fysiau redeg yn lle trenau ar reilffordd Rhymni ddydd Sadwrn 15 Mehefin, a allai effeithio ar eich taith i Pride Caerffili ac yn ôl.

Byddwch yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd hyn a chaniatáu amser ychwanegol wrth deithio neu wneud trefniadau teithio arall os oes angen.

Parcio Ceir

Mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:

  • Maes parcio Station Terrace CF83 1JU (talu ac arddangos)
  • Cyfleuster Parcio a Theithio Caerffili CF83 1JU (am ddim)
  • Maes parcio Crescent Road CF83 1AB (talu ac arddangos)
  • Morrisons/Canolfan Siopa Cwrt y Castell CF83 1XP (am ddim, hyd at 3 awr)

Gallwch chi ddefnyddio Parkopedia* i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feysydd parcio yn yr ardal, gan gynnwys prisiau.

❗️ Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.

*Nid yw Croeso Caerffili yn gysylltiedig â’r sefydliad hwn.


Noddwyr Pride Caerffili 2024

Diolch i’n holl noddwyr! Heb ein noddwyr gwych, fyddai llawer o elfennau o Pride Caerffili ddim yn bosib! Noddir Pride Caerffili 2024 gan:


Mae Caerffili yn Dref Smart!
Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Pride Caerffili, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.
Lawrlwythwch am ddim, yma!


Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

 

 

 


 

Essential information

Address
Address
Canol Tref Caerffili
CF83 1JL
Contact Name
Contact
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Phone
Phone
01443 864404 / 864353
Website
Social Media
Facebook
Twitter
Instagram
Charges
Charges
AM DDIM
Pet Friendly
Pet Friendly

You may also be interested in: