Y ganolfan ymwelwyr yw’r lle perffaith i gyfarfod, prynu lluniaeth ac anrhegion yn ogystal â darganfod beth y gallwch ei wneud yn yr ardal. Beth am ymlacio yng nghaffi Raven a blasu amrywiaeth o brydau a byrbrydau ffres neu edrych ar yr ystod o nwyddau cartref ac anrhegion yn y siop?
Mae lle i eistedd ar gyfer 56 o bobl yn y caffi, neu gallwch eistedd y tu allan yn yr ardal eistedd drawiadol sy’n ymestyn o amgylch y ganolfan ac yn edrych dros Afon Nantcarn. Mae digon o le i’r teulu cyfan.