Mae’r adeilad hardd a deniadol hwn (sydd ag un o’r celloedd gwreiddiol o hyd) wedi’i foderneiddio mewn ffordd ofalus a sensitif. Bellach, mae’n cynnig chwech o ystafelloedd hunanddarpar â chyfleusterau en-suite. Mae gan bob ystafell gegin fach ac ystafell ymolchi fodern, sy’n cynnwys pen cawod sy’n efelychu glaw.
Mae’r llety o fewn pellter cerdded i faenordy Llancaiach Fawr – sef plasty bendigedig o oes y Tuduriaid – a dim ond dwy filltir o’r gefnffordd A470 – sy’n darparu mynediad cyflym i Gaerdydd, Caerffili, Merthyr Tudful, a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Dyma leoliad perffaith hefyd ar gyfer beicwyr brwdfrydig – mae’r llety o fewn pellter cerdded i’r llwybr Taith Taf, a dim ond 10 munud yn y car i Barc Beicio Cymru ym Merthyr Tudful ac i’r Parc Beicio Mynydd yng Nghwmcarn.
Gostyngiad o 10% am saith noson neu ragor
Gostyngiad o 15% am arhosiad pedair wythnos o hyd