Mae’r Tour of Britain yn dychwelyd i’r Fwrdeistref Sirol ddydd Sul 10 Medi!
Bydd y digwyddiad chwaraeon o safon fyd-eang yn dod i ben yng nghanol tref Caerffili yn dilyn 8 cam dwys o rasio ledled y Deyrnas Unedig. Gyda’r cyffro’n cael ei ddarlledu ar deledu byw (ITV4) – bydd y digwyddiad yn arddangos Caerffili ar lwyfan y byd wrth i’r beicwyr ddod i mewn i’r Fwrdeistref Sirol drwy Nelson, pasio trwy Lanbradach a chwblhau dwy lap o fynydd Caerffili cyn croesi’r llinell derfyn o flaen y castell eiconig.
Dyma’r manylion llawn (gan gynnwys manylion am gau ffyrdd) i alluogi trigolion i gynllunio ymlaen llaw.
Bydd beicwyr yn dod i mewn i’r Fwrdeistref Sirol ar hyd yr A4054, yn mynd i’r dde ar y gylchfan i ymuno â’r A472 (Heol Pontypridd) tuag at Nelson.
Amserau yn fras:
Mae’r system cau ffyrdd dreigl yn dod i ben yn y man cyfarfod rhwng Heol Pontygwindy a chyffordd Castle Street.
I gael rhagor o wybodaeth am The Tour of Britain, ewch i’r wefan swyddogol.
Cliciwch YMA i ymuno â’r digwyddiad Facebook swyddogol.
Mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:
– Maes parcio Station Terrace (talu ac arddangos)
– Cyfleuster Parcio a Theithio Caerffili (am ddim)
– Morrisons / Canolfan Siopa Cwrt y Castell (am ddim, hyd at 3 awr)
Mae nifer o raciau beiciau yng nghanol tref Caerffili, wedi’u nodi’n borffor ar y map. Gellir dod o hyd i raciau beiciau yng Nghyfnewidfa Drafnidiaeth Caerffili, yn ogystal â ledled Heol Caerdydd a thu allan i Morrisons.