Tafarn fach gyda chalon fawr! Mae ‘The White Cross’ mewn lleoliad gwledig ac yn fan galw heibio rheolaidd i gerddwyr, marchogion a beicwyr. Oddeutu 250 mlwydd oed, mae’n Dafarn Gymunedol dda ac mae’n gartref i grŵp cerdded (The Wacky Wanderers), ‘The Beerbellies’ (noson fisol o sgyrsiau ac ati ar gwrw), ‘The Gun Club’ a dau dîm taflu dartiau. Derbyniodd Cymeradwyaeth Uchel gan CAMRA yn 2018 ac fe ymddangosodd yn ‘The Good Beer Guide’ ers 2012.
Mae gennym hefyd ystafell glyd fechan sydd ar gael ar gyfer partïon preifat neu gyfarfodydd.
Cafodd The White Cross Inn ei defnyddio fel ‘Y Pren Marw,’ y dafarn Gymreig ffuglennol ym mhennod 2024 o Doctor Who, ‘’73 Yards.’