Dewch i chwilota a darganfod yn ein harddangosfeydd rhyngweithiol deniadol. Mae gennym ni bob math o ddigwyddiadau llawn hwyl, diddorol a chyfeillgar i deuluoedd trwy gydol y flwyddyn. O weithgareddau hanesyddol crefftus i sgyrsiau a theithiau yn yr oriel, mae digon i bawb ei fwynhau!
Wedi’i hadeiladu ar safle hen Lofa Elliot, canolbwynt yr amgueddfa yw’r injan weindio Fictoraidd wreiddiol, sy’n gweithredu ar ddydd Sadwrn olaf pob mis. Mae’r peiriant enfawr hwn yn rhoi cipolwg i chi ar sut brofiad oedd gweithio ym meysydd glo De Cymru, a hynny mor fanwl ag olew’r injan a llwch y glo. Yn yr ystafell weindio, byddwch chi’n archwilio’n ddwfn i hanes Glofa Elliot a’i bwysigrwydd i’r gymuned leol.
Dewch i ddarganfod hanes cudd De Cymru yn Oriel y Gorllewin, lle byddwch chi’n dod o hyd i arddangosfa o oreuon ein casgliad ni. O’r Rhufeiniaid i Chwyldroadau, Cestyll i Gafaliriaid, ac o’r Oes Haearn i’r Gwaith Haearn, mae llawer i’w weld, ei wneud a’i archwilio!
Mae Oriel y Gorllewin yn adrodd hanes De Cymru drwy hanesion pobl gyffredin. Rydyn ni’n annog ymwelwyr i ymgysylltu â hanes drwy gyffwrdd, arogli a chwarae â’n harddangosfeydd rhyngweithiol ni. Mae’r straeon rydyn ni’n eu hadrodd yn yr oriel hon yn rhai i bawb eu rhannu, felly, mae croeso i chi ddod â’r teulu cyfan i fwynhau archwilio hanes yr ardal.
Mae Oriel y Dwyrain yn cynnwys rhaglen newidiol o arddangosfeydd diddorol bob blwyddyn. Mae’r arddangosfeydd hyn yn cynnwys rhai gan artistiaid a chrefftwyr o Gymru, prosiectau addysg a chymunedol lleol ac arddangosfeydd o gasgliad yr amgueddfa. Rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i rywbeth sy’n apelio atoch chi yn ein rhaglen ni o arddangosfeydd.
P’un a ydych chi’n bwriadu ymweld gydag ysgol neu grŵp dysgu, eich teulu chi, eich ffrindiau chi neu ar eich pen eich hun, edrychwch ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol ni i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar y gweill yn y Tŷ Weindio.
Beth am gymryd hoe fach yn ein siop goffi ni gydag ychydig o de, coffi a chacennau blasus? Neu ddod o hyd i gofrodd arbennig ymhlith y dewis helaeth o deganau traddodiadol, crefftau o ansawdd da, gemwaith a llyfrau sydd ar gael yn y siop anrhegion?