Mae’r farchnad hudol hon dros 2 ddiwrnod yn boblogaidd iawn yng Nghymru a thu hwnt.
Wrth ymweld â Marchnad Nadolig Caerffili, peidiwch ag anghofio mynd i Farchnad y Ffermwyr yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Ffair Crefftau Caerffili wrth y Senotaff a Marchnad Crefft a Bwyd Cwrt-y-castell yng Nghanolfan Siopa Cwrt-y-castell. Mae’r holl farchnadoedd hyn yn ategu Marchnad Nadolig Caerffili a chymysgedd o siopau annibynnol a siopau’r stryd fawr y dref.
DIGWYDDIAD AM DDIM yn y dref. Mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol i’r castell.
Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan newydd sbon www.marchnadnadoligcaerffili.co.uk, ffonio’r Ganolfan Croeso Caerffili ar 029 2088 0011 neu anfon e-bost digwyddiadau@caerffili.gov.uk